| Mae
geo-drws yn adnodd addysgol ar-lein newydd ym maes daearyddiaeth
ar gyfer athrawon a disgyblion. Mae’n cynnig cronfa ddata
gynhwysfawr o wybodaeth ac astudiaethau achos i gefnogi gwaith addysgu
a chynllunio'r cwricwlwm.
Lluniwyd geo-drws i ddwyn ynghyd brofiad amrywiol a sylweddol cyhoeddiadau
FBA yn y sector addysg, sy’n cynnwys cyfleusterau cynllunio,
dylunio a gweithredu, â sgiliau ariannol ACCAC, Awdurdod Cymwysterau,
Cwricwlwm ac Asesu Cymru.
Mae gan dîm FBA ac ACCAC gryn brofiad yn y maes o gynhyrchu
a dosbarthu adnoddau addysgol dwyieithog mewn sawl fformat, yn cynnwys
drws, y porth i wefannau addysgol Cymraeg a dwyieithog ar y rhyngrwyd,
y gyfres "Celfwaith" o lyfrau adnoddau darluniol, y pecyn
celfyddyd "Artistiaid Cymru", llyfrau straeon i blant
yn y gyfres "Compass", a llawer mwy.
Hoffai ACCAC ac FBA ddiolch i’r tîm o ymgynghorwyr,
dylunwyr, ymchwilwyr a staff cydgysylltu am eu cefnogaeth i’r
cynllun geo-drws. Mae’r holl bobl hyn eisoes wedi gwneud gwaith
da yn eu meysydd eu hunain ac maent wedi helpu i greu prosiect a
pherthynas a fydd, gobeithio, yn dal i dyfu a datblygu yn y dyfodol.
 |
Cyd-fenter
rhwng
a |
 |
|